Croeso
Sefydlwyd Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan
ym 1884 pan dderbyniodd y dref ei siarter fel
bwrdeistref. Dangosir y siarter yn Swyddfa
Cyngor Sir Ceredigion, Stryd y Farchnad. Mae llywodraeth
lleol yn wahanol iawn erbyn heddiw ac mae Cyngor Sir
Ceredigion wedi ysgwyddo llawer o gyfrifoldebau
Cyngor y Dref, ers 1996.

Mae gan Gyngor y Dref amryw gyfrifoldebau
gan gynnwys Parc yr Orsedd, y CCTV, rhai llwybrau
yn yr ardal a dodrefn stryd. Gall wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio,
cyn iddynt gael penderfyniad gan Gyngor Sir Ceredigion.
Gweithia'r Cyngor mewn partneriaeth â
mudiadau, clybiau a gwasanaethau'r ardal ac weithiau'n darparu cefnogaeth ariannol ar eu rhan.
Penodir aelodau i Fwrdd y Pwll Nofio a Chyrff
Rheoli Ysgolion. Mae'r Cyngor yn gyfranddalwr
ym Menter Llambed, ac yn penodi tri cyfarwyddwr
i Fwrdd y Cwmni.
Cynhelir etholiadau bob pedair mlynedd, ac mae'r
cynghorwyr yn cynrychioli'r dref i gyd, yn hytrach
na wardiau arbennig. Clerc y Dref yw'r unig un a
gyflogir gan y cyngor. Er i peth gwaith gael
ei gontractio allan, cyfrannir llawer o oriau gan
aelodau'r cyngor, er mwyn arbed arian.
Cynhelir gyfarfodydd y Cyngor, sy'n agored i aelodau'r cyhoedd, ar nos Iau olaf y
mis yn Neudd Eglwys Sant Pedr am 7.30yh. Mae'r cofnodion ar
gael ar y wefan hon, neu gan Glerc y Dref.
Cynheir cyfarfodydd 2009 ar y ddyddiadau isod
Cyfarfod y Gyllideb 8 Ionawr 2009
29 Ionawr
26 Chwefror
26 Mawrth
30 Ebrill
Cyfarfod cyffredinol Blynyddol 1 Mai
28 Mai
25 Mehefin
29 Gorffennaf
27 Awst
24 Medi
29 Hydref
29 Tachwedd
Mae ffurflen newydd ar gyfer ceisio am gynmorth ariannol oddi wrth y Cyngor.
|

|