Llefydd i Ymweld
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan

Llambed yw lleoliad y Brifysgol hynaf yng Nghymru. Agorwyd
y brifysgol yn 1822 gan yr Esgob Burgess o Dyddewi. Mae'r
Brifysgol yn cynnig cyrsiau traddodiadol a modern ac maent
yn arwain y ffordd i ddysgu dros y rhyngrwyd. Mae'r tir
yn agored i'r cyhoedd ac mae croeso i chi ymweld â'r
lle. Mae'r Founders Library, sydd yn yr Hen Adeilad yn dal
casgliad diddorol o lyfrau ac mae arddangosfeydd diddorol
ac amrywiol yn cael eu cynnal drwy'r flwyddyn. Mae'n rhaid
i bob ymwelwr fynd i Gapel y Brifysgol a leolir yn yr Hen
Adeilad.
Ymweld â'r wefan
|
|