Llefydd i Ymweld
Cyflwyniad
Y mae nifer o lefydd hanesyddol a lliwgar yn Llambed ei hun, yn ogystal ag amrywiaeth o lefydd i fynd am dro. Y mae yma lawer o atyniadau eraill i blesio bob chwaeth o fewn tafliad carreg i’r dref.
 
Y mae Llambed hefyd yn ganolfan i rwydwaith o deithiau cerdded gwledig ar hyd llwybrau troed, llwybrau marchogaeth, neu ffyrdd tawel. Mae’r rhain yn arwain at lynnoedd, dolydd deniadol, adfeilion hen gaerau a meini tal. Gellir prynu mapiau Ordnans sy’n dangos llwybrau’r ardal mewn siopau papur newydd neu siopau llyfrau yn y dref. Hefyd felly y llyfr Walking Lampeter, a gynhyrchwyd gan Gerddwyr Llambed, sy’n awgrymu teithiau diddorol yn yr ardal.
|
|